Psalms 14

Drygioni'r galon ddynol

(Salm 53)

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun,
“Dydy Duw ddim yn bodoli.”
Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd;
does neb yn gwneud daioni.
2Mae'r Arglwydd yn edrych i lawr
o'r nefoedd ar y ddynoliaeth
i weld os oes unrhyw un call;
unrhyw un sy'n ceisio Duw.
3Ond mae pawb wedi troi cefn arno,
ac yn gwbl lygredig.
Does neb yn gwneud daioni –
dim un!
4Ydyn nhw wir mor dwp – yr holl rhai drwg
sy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd,
a byth yn galw ar yr Arglwydd?
5Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau,
am fod Duw yn gofalu am y rhai cyfiawn.
6Dych chi'n ceisio drysu hyder yr anghenus,
ond mae'r Arglwydd yn ei gadw'n saff.
7O, dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion!
Pan fydd yr Arglwydd yn troi'r sefyllfa rownd
bydd Jacob yn gorfoleddu,
a bydd Israel mor hapus!
Copyright information for CYM